Pecyn Addysg

Mae Arddangosfa mewn Blwch yn cysylltu pobl gyda phrofiad dilys o'r Rhyfel Byd Cyntaf drwy lens "distawrwydd".

Rydym eisiau i'ch dysgwyr gael eu hysbrydoli gan gyffro derbyn blwch arbennig, ei agor i ddatgelu eitemau go iawn, rhai ohonynt dros 100 mlwydd oed. Mae trin yr eitemau hyn yn ein helpu i ddeall bywydau cenhedlaeth flaenorol - a sut mae eu profiadau yn cyffwrdd â'n bywydau heddiw.

Mae 18 blwch ar gael, pob un gyda thema unigol

Mae gan bob blwch becyn addysg pwrpasol gyda:

1. Rhestr cynnwys

2. Gwybodaeth allweddol i ddweud mwy wrthych am y cyd-destun hanesyddol

3. Cwestiynau y gellir eu gofyn wrth agor a defnyddio'r blwch

4. Awgrymiadau am gyfuniadau o flychau

5. Awgrymiadau am weithgareddau

6. Cyngor ar sut i ofalu am a dychwelyd y blwch

 

Mae defnydd y blychau yn rhad ac am ddim. Codir tâl arnoch am ddosbarthu ond mae gennych y dewis o gasglu a dychwelyd y blychau eich hun. Mae swyddfa Celf ar y Blaen yn Llanhiledd, Blaenau Gwent.

 

Lawrlwythwch y deunyddiau cymorth addysgol drwy glicio ar y delweddau islaw: