Trowsus
By: Catrin James | Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
Ti'n gwybod, dydy gweithio'n galed a dyw taflu fy hunan mewn i'r gwaith yn y ffatri ddim yn gwneud i mi beidio meddwl am y rhyfel.
Wrth gwrs, cyn gynted ag y gofynnwyd iddo, roedd fy nhad yn ceisio cael un o'r bathodynnau yna. Ti'n gwybod y rhai dwi'n meddwl. Y bathodynau gyda'r rhifau bach sydd yn dangos bod dyn yn gweithio mewn pwll glo neu rywbeth sy'n golygu nad oes angen iddyn nhw ymladd. Wel doedd e ddim yn gallu cael un, ac nawr mae e yn Frainc.
Sai'n gallu helpu teimo'n grac wrth weld y dynion arall yn cerdded y strydoedd yn edrych mor....fyw, mor rhydd. Dydy e ddim yn deg! Mae rhan fwyaf ohonyn nhw yn gweithio yn yr un pwll glo â fy nhad. Beth sydd yn eu gwneud nhw yn arbennig?
Yna mae fy ngwaith yn y ffatri mae mor wahanol i beth dwi'n wneud fel arfer yn enwedig oherwydd mae fy nwylo a fy wyneb eisoes yn troi'n felyn. Maen nhw'n ein galw yn ganeris. Dwi'n gwybod bydd y lliw yn diflannu pan fydda i'n stopio gweithio ond alla i ddim dweud nad yw e'n od.
A'r trowsus! Dwi'n methu credu mod i bron yn oedolyn aeddfed a dwi byth di gwisgo trowsus o'r blaen. Dim esgidiau trwm, rydw i'n dal i orfod gwisgo y sodlau yma.
Wel, dylwn i fynd yn ôl at fy ngwaith. Rhaid i mi wneud beth dwi'n gallu at y rhyfel. Gobeithio y bydd dad yn cael ei anfon adref yn fuan. Gobeithaf bydd yn dod adref yn ddiogel.
- All
- Artwork
- Film / Video
- Craft
- Music
- Literature
- Merthyr Tydfil Writing Squad
- Dowlais Visual Art Group
- Cwmbran High School
- Blaenau Gwent Rhythm & Ukes
- Ysgol Gyfun Cwm Rhymni
- Thornhill Craft Group
- BG Drama Group
- Caerphilly Parents Network
-
Pack up your troubles / It's a long way to Tipperary
Blaenau Gwent Rhythm & Ukes