Grwpiau

Rydyn ni wedi gweithio gyda nifer o grwpiau cymunedol  i greu'r gwaith celf i'r prosiect.

Ein grwpiau: Blaenau Gwent Rhythm and Ukes, Blaenau Gwent Senior Youth Theatre, Caerphilly Parents Network (Nant y Parc & Trethomas), Cwmbran High School, Dowlais Visual Arts Group, Merthyr Tydfil Library Service Community Writing Squad, Thornhill Craft Group (Cwmbran) and Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

 

Blaenau Gwent Rhythm & Ukes

Rhythm & Ukes group performing at the exhibition launch

Roedd gan gerddoriaeth ran bwysig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ar faes y gad a hefyd adre. Roedd yn aml yn cael ei ddefnyddio fel math o bropaganda gyda chaneuon fel “We Don’t Want To Lose You But We Think You Ought To Go” yn boblogaidd mewn neuaddau cerdd ym Mhrydain.

Byddai milwyr yn canu caneuon i gadw eu hysbryd lan ac i ddiddanu eu hunain yn ystod cyfnodau rhwng brwydrau. Roedd milwyr yn aml yn ailysgrifennu geiriau caneuon poblogaidd, gan ddefnyddio hyn i wneud hwyl am ben swyddogion neu i gael gwared â'u rhwystredigaeth. Roedd y caneuon yn fersiynau digri ac weithiau liwgar o'r rhai gwreiddiol.


Wedi'u hysbrydoli gan y milwyr, Blaenau Gwent Rhythm and Ukes wedi ailysgrifennu geiriau dwy gân boblogaidd o'r Rhyfel Byd Gyntaf, gan roi naws modern ar y traddodiad. Maent hefyd wedi cofnodi eu fersiynau eu hunain o rai caneuon clasurol o'r cyfnod.

 

Blaenau Gwent Senior Youth Theatre Group

Blaenau Gwent Senior youth theatre group - writing classCyflwynwyd gorfodaeth filwrol ym mis Ionawr 1916, wedi'i dargedu i ddechrau tuag at ddynion sengl rhwng 18-41 oed ond a gafodd ei ymestyn yn fuan i gynnwys dynion priod. Gallai rhai a gredai y dylent gael eu heithrio o wasanaeth milwrol apelio i Wasanaeth Tribiwnlys Milwrol lleol. Yn aml roedd apeliadau'n cael eu gwneud ar sail credoau crefyddol neu foesol, iechyd gwael neu weithio mewn swydd oedd yn cyfrannu at waith y rhyfel.

Wedi'u hysbrydoli gan gofnodion yn Archifdy Gwent, mae Blaenau Gwent Senior Youth Theatre wedi dramateiddio golygfa mewn tribiwnlys milwrol a gofnodwyd fel ffilm fer.

Creodd y theatr ieuenctid ail ffilm fer yn dangos y berthynas rhwng menywod ifanc adre a milwr yn y ffosydd yn seiliedig ar gyfres o lythyrau gwreiddiol y gwnaethant eu harchwilio.

Caerphilly Parents Network (Nant y Parc & Trethomas)

Ystyrid bod gwasanaeth post effeithiol yn hollbwysig i waith y rhyfel gan y credid fod cyswllt rheolaidd gyda'u cartrefi yn hanfodol ar gyfer ysbryd y milwyr. Dywedwyd fod y Swyddfa Bost Gyffredinol yn dosbarthu hyd at 12 miliwn o lythyrau yr wythnos i filwyr yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.


Daeth cardiau post gyda brodwaith sidan, a wnaed yn Ffrainc yn bennaf, yn boblogaidd iawn gyda milwyr Prydain oedd yn eu hanfon adref at eu hanwyliaid. Roedd y cardiau brodwaith yn aml yn dangos cynlluniau gwladgarol, yn defnyddio lluniau a lliwiau baneri'r Lluoedd y Cynghreiriaid.


Yn ystod y prosiect, dysgodd grwpiau Rhwydwaith Rhieni Nant-y-Parc a Trethomas Caerffili dechnegau crefft newydd i atgynhyrchu cardiau post yn seiliedig ar y cynlluniau gwreiddiol.

Cwmbran High School

Cwmbran high school at Gwent Archives

Fe wnaeth tripiau ymchwil i Archifdy Gwent ysgogi disgyblion i greu monologau byr yn ymchwilio meddyliau a theimladau rhai o'r cymeriadau gwahanol oedd yn byw yn yr ardal yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd y monologau hyn eu perfformio a'u ffilmio'n ddiweddarach.

Drwy eu hymchwil fe wnaethant ddysgu am bwysigrwydd diwydiant, a adlewyrchir gan eu darluniadau o fenywod yn gweithio mewn ffatrïoedd arfau a rhai oedd â swyddi wedi eu diogelu.

Roedd gan y disgyblion ddiddordeb canfod sut y cafodd ffoaduriaid o wlad Belg eu trin yng nghymunedau'r cymoedd, gan gymharu hynny gyda'r ffordd y caiff mewnfudwyr heddiw eu portreadu mewn cymdeithas gyfoes.
Fe wnaeth cyfres o lythyrau a anfonwyd rhwng milwr ar flaen y gad a'i gariad adre helpu'r disgyblion i ddychmygu torcalon rhyfel.

Dowlais Visual Arts Groups

Dowlais Visual Arts Group

Yn dilyn eu hymweliad i Archifdy Morgannwg, penderfynodd Dowlais Visual Arts Group ymchwilio, drwy gyfrwng ysgrifennu creadigol, sut fywyd oedd gan wahanol bobl yn byw drwy gyfnod anodd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.


Ysgrifennwyd cyfres o gerddi a straeon o amrywiaeth o safbwyntiau, yn cynnwys nyrsys, milwyr, athrawon ysgol a ffoaduriaid o Wlad Belg. Yna arbrofodd y grŵp gyda thechnegau torri papur i greu celfwaith i ddarlunio eu gwaith ysgrifennu.

Merthyr Tydfil Library Service Community Writing Squad

Merthyr Community Writing Squad group photoDisgwylid i bawb, yn cynnwys plant, i "wneud eu pwt" i helpu gyda gwaith y rhyfel. Roedd hyn yn cynorthwyo gyda dyletswyddau yn y cartref, tyfu llysiau, gweu eitemau i'w hanfon at filwyr ar faes y gad a helpu i godi cyllid ar gyfer elusennau lleol a chenedlaethol.

Cafodd Merthyr Tydfil Library Service Community Writing Squad eu hysgogi gan astudiaeth o lyfrau ysgol i ysgrifennu cerddi a straeon yn seiliedig ar brofiadau pobl ifanc yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Buont hefyd yn ymchwilio'r ffordd yr oedd y rhyfel yn effeithio ar oedolion, gan ysgrifennu darnau ychwanegol o safbwynt milwyr a nyrsys.

Thornhill Craft Group, Cwmbran

Thornhill Craft Group at Gwent ArchivesYn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, byddai milwyr oedd wedi eu hanafu oedd yn iachau o'u hanafiadau yn aml yn gwneud clustogau pinnau i'w hanfon adref i'w hanwyliaid. Gellid prynu'r deunyddiau mewn pecynnau oedd yn cynnwys glain, edau a deunydd. Roedd cerddi a bathodynnau milwrol hefyd yn cael eu defnyddio i addurno a phersonoleiddio'r clustogau pinnau.

Defnyddiodd Thornhill Craft Group rai o'r cynlluniau gwreiddiol i ysbrydoli creu eu clustogau pinnau cariad eu hunain.

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

Ysgol Gyfun Cwm Rhymni

Fe wnaeth tripiau ymchwil i Archifdy Gwent ysgogi disgyblion i greu monologau byr yn ymchwilio meddyliau a theimladau rhai o'r cymeriadau gwahanol oedd yn byw yn yr ardal yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd y monologau hyn eu perfformio a'u ffilmio'n ddiweddarach.

Drwy eu hymchwil fe wnaethant ddysgu am bwysigrwydd diwydiant, a adlewyrchir gan eu darluniadau o fenywod yn gweithio mewn ffatrïoedd arfau a rhai oedd â swyddi wedi eu diogelu.

Roedd gan y disgyblion ddiddordeb canfod sut y cafodd ffoaduriaid o wlad Belg eu trin yng nghymunedau'r cymoedd, gan gymharu hynny gyda'r ffordd y caiff mewnfudwyr heddiw  eu portreadu mewn cymdeithas gyfoes.

Fe wnaeth cyfres o lythyrau a anfonwyd rhwng milwr ar flaen y gad a'i gariad adre helpu'r disgyblion i ddychmygu torcalon rhyfel.