Am Arddangosfa mewn Blwch
Mae Arddangosfa mewn Blwch yn adnodd aml-synhwyraidd, cludadwy sy'n ymchwilio thema distawrwydd mewn cysylltiad â'r Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd ei gynllunio gan Celf ar y Blaen a derbyniodd gyllid drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Mae'r arddangosfa yn cynnwys eitemau a gynlluniwyd i ysgogi trafodaeth a sbarduno'r dychymyg am y gwahanol fathau o ddistawrwydd sy'n gysylltiedig gyda'r Rhyfel Byd Cyntaf, tebyg i ddistawrwydd fel gweithred o gofio, dull o warchod a chanlyniad trawma.
Cafodd yr eitemau eu dewis yn ofalus i hyrwyddo chwilfrydedd, gan annog y rhai sy'n cymryd rhan i ymchwilio pob eitem yn llawn i ddatgloi eu hystyr. Er enghraifft, mae gwrthrychau'n cynnwys: blwch yn llawn o betalau pabi gydag amserydd wy, ffotograff gyda realiti estynedig a sypyn o lythyrau sy'n dweud stori.
Mae Arddangosfa mewn Blwch yn cyfuno rhai o'r straeon lleol a deunydd creadigol a gasglwyd yn flaenorol gan Celf ar y Blaen yn ystod y coffâd pedair blynedd o'r Rhyfel Byd Cyntaf. Casglwyd eitemau a straeon eraill gyda chefnogaeth partneriaid treftadaeth Archifdy Gwent, Archifdy Morgannwg, Y Tŷ Windio, Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa ac Amgueddfa Cymru.
Yn ystod cam cyntaf y prosiect, cymerodd 20 grŵp cymunedol o Gymoedd De Ddwyrain Cymru ran mewn gweithdai cyfranogol lle buont yn ymchwilio Arddangosfa mewn Blwch gyda chefnogaeth gan yr ymgynghorydd treftadaeth, Jane Barnes. Bu pob grŵp wedyn yn gweithio gydag artist i wneud gwaith creadigol a ysbrydolwyd gan yr arddangosfa. Cafodd y gwaith creadigol a gynhyrchwyd ei ddangos mewn arddangosfeydd cymunedol ar draws yr ardal a gellir eu gweld ar y dudalen Orielau.
Roedd ail gam y prosiect yn cynnwys creu Pecyn Addysg. Gobeithiwn y bydd hyn yn cryfhau gwaddol prosiect Arddangosfa mewn Blwch, gan alluogi'r adnodd i barhau i helpu pobl i ddysgu mwy am y Rhyfel Byd Cyntaf a'i effaith barhaol. Cysylltwch â ni i gael mwy o fanylion am fenthyca'r arddangosfa i'w defnyddio gyda'ch dosbarth neu grŵp cymunedol.